Swyddfa Docynnau Hafren 01686 948100


Eich ymweliad: Prynu Tocynnau

Cliciwch ar yr eiconau isod neu sgroliwch i lawr am wybodaeth bellach.

Disabled Access
Terms & Conditions

Swyddfa Docynnau Hafren

Mae ein Swyddfa Docynnau bellach ar agor. Mae'r amseroedd agor cyhoeddus newydd fel a ganlyn:

Diwrnod Oriau Agor
Dydd Llun 9:00am - 3:00pm
Dydd Mawrth AR GAU
Dydd Mercher AR GAU
Dydd Iau 9:00am - 3:00pm
Dydd Gwener 9:00am - 3:00pm
Dydd Sadwrn AR GAU
Dydd Sul AR GAU

Mae ein gwefan ar gael wrth gwrs a gall cwsmeriaid brynu tocynnau trwyddi, yma, yn ogystal â galw i mewn i'r Swyddfa Docynnau. Os hoffech siarad ag aelod o staff ynghylch ein sioeau, ein gweithdai cymunedol neu ein canolfan gynadledda sydd ar ddod, e-bostiwch neu ffoniwch 01686 948100.


Dros y Ffôn

Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 01686 948100.
Gallwch dalu trwy gerdyn credyd neu ddebyd. Bydd galwadau ffôn i archebu tocynnau'n cael eu dargyfeirio i ffôn ateb yn ystod y 30 munud cyn unrhyw berfformiad i alluogi staff y Swyddfa Docynnau i weini pobl mewn person.


Gwerthiannau Ar-lein

Mae tocynnau ar gyfer yr holl sioeau ar gael i'w prynu ar-lein yn www.thehafren.co.uk/cymraeg/whatson.php. Gall cwsmeriaid naill ai argraffu derbynneb neu ofyn i'w tocynnau gael eu hanfon trwy'r post am gost o £1.20. Dewch â'ch derbynneb gyda chi wrth gasglu eich tocynnau.


Tocynnau Digidol

Rydym yn cynnig yr opsiwn i bobl sy'n archebu ar-lein argraffu tocynnau gartref. Y cyfan y byddai angen i chi ei wneud yw dewis 'Argraffu Cartref' wrth i chi dalu ac yna anfonir e-bost atoch gyda dolen pdf i'ch tocynnau. Wrth glicio'r ddolen honno bydd modd i chi weld nhw ac yna eu hargraffu. Dewch â nhw gyda chi a cherddwch yn syth i'r awditoriwm.


Trwy'r Post

Swyddfa Docynnau, Yr Hafren, Heol Llanidloes, Y Drenewydd, Powys SY16 4HU.
Rhowch enw'r perfformiad, nifer y tocynnau (gan gynnwys unrhyw gonsesiynau), eich enw, cyfeiriad a rhif ffôn yn ystod y dydd. Gofynnir i chi amgáu siec am y cyfanswm, yn daladwy i 'Hafren-NPTC Group' ac ysgrifennu rhif y cerdyn siec ar y cefn. Ychwanegwch £1.20 at y cyfanswm os ydych eisiau i'r tocynnau gael eu hanfon atoch trwy'r post.


Yn Bersonol

Galwch heibio'r Swyddfa Docynnau yn ystod oriau agor. Mae digonedd o leoedd parcio am ddim y tu allan.


Trwy E-bost

Wrth e-bostio Swyddfa Docynnau Hafren ynglŷn â'ch archeb, peidiwch â chynnwys unrhyw fanylion banc personol. Ni fyddwn ond yn gofyn i chi nodi'r manylion hyn wrth brynu tocynnau ar-lein neu pan fyddwch yn cysylltu â ni dros y ffôn i archebu'ch tocynnau.


Ad-daliadau a Chyfnewid Tocynnau

Mae Hafren yn gwerthfawrogi ymroddiad cwsmeriaid i'r theatr wrth archebu'n gynnar ar gyfer digwyddiadau ac yn cydnabod y gall cynlluniau newid. Yn y fath achosion, os caiff y tocynnau eu dychwelyd i'r Swyddfa Docynnau byddwn yn ceisio eu hailwerthu i gwsmeriaid eraill. Ni ellir gwarantu hyn gan y bydd holl docynnau'r theatr sydd heb eu gwerthu'n cael eu gwerthu'n gyntaf. Os byddwn yn llwyddo i ailwerthu'r tocynnau, bydd y Swyddfa Docynnau'n rhoi taleb i chi i'w defnyddio yn erbyn unrhyw archeb yn y dyfodol. Gellir rhoi talebau credyd dim ond i brynwr gwreiddiol y tocyn. Yn unol â'r rhan fwyaf o theatrau proffesiynol eraill, diferir na ellir rhoi ad-daliadau arian parod ar gyfer tocynnau sydd eisoes wedi'u prynu.


Cyfraddau Archebu Grŵp

Mae'r rhain ar gael ar gyfer y rhan fwyaf o berfformiadau i grwpiau o 10 neu fwy. Mae un tocyn ar gael am ddim ar gyfer bob 10 o docynnau a archebir. Gofynnir i chi gadarnhau gyda'r Swyddfa Docynnau bod y gyfradd grŵp yn berthnasol i'r perfformiad rydych yn dymuno archebu ar ei gyfer. Ar gyfer grwpiau o fwy na 25, ffoniwch Del Thomas, Rheolwr Marchnata, ar 01686 948101 - Opsiwn 2 neu gyrrwch e-bost i i drafod disgowntiau mwy.