Swyddfa Docynnau Hafren 01686 948100

Canolfan Gynadledda Hafren


Croeso i Ganolfan Gynadledda Hafren

Y Brif Gyrchfan Cynadleddau a Chyfarfodydd yng Nghanolbarth Cymru

Mae awditoriwm y theatr a'n hystafelloedd cynadledda wedi'u cyfarparu'n llawn ar gael ar gyfer cynadleddau, cyfarfodydd busnes, gweithdai, hyfforddiant a digwyddiadau arbennig. Gydag arlwyo sy'n gweddu i bob gofyniad, mae Canolfan Gynadledda Hafren yn cynnig amgylchedd proffesiynol ac addas i fusnes, sy'n hyblyg wrth ddarparu ar gyfer amrediad mawr o niferoedd. Mae ein tîm ymroddedig wrth law i helpu sicrhau bod eich digwyddiad yn llwyddiant.

Rydym wedi'n hadeiladu ar gyfer busnes....

Gyda gofodau hyblyg ni allai hurio fod yn fwy hwylus! Rydym yn codi un ffi cystadleuol sy'n cynnwys mynediad i wifi, bwrdd gwyn rhyngweithiol, taflunydd, siart troi a phinnau'n safonol felly does dim costau cuddiedig ychwanegol! Mae'r holl gyfleusterau Cynadledda wedi'u lleoli ar y llawr gwaelod, gan eu gwneud yn addas o ran mynediad hwylus. Hefyd, mae ein tîm ar gael trwy'r amser i roi unrhyw gyngor ac arweiniad y gallai fod eu hangen arnoch ar y dydd.

Canolfan Gynadledda Hafren
Canolfan Gynadledda Hafren
Canolfan Gynadledda Hafren

Rydym yn fwy na Theatr yn unig!

  • Mae gennym bedair ystafell Gynadledda ar gael i'w hurio ar gyfer cynadleddau, cyfarfodydd busnes neu ddigwyddiadau eraill gan gynnig trefniadau seddau hyblyg a all ddarparu ar gyfer niferoedd rhwng 12 ac 90 o bobl.

  • Rydym yn cynnig detholiad o wahanol fathau o de, coffi a siocled poeth. Gall y cleient ddewis darparu diodydd poeth a thalu amdanynt mewn bil unigol, neu gallwch roi slot talu i mewn er mwyn i bob mynychai dalu am eu diodydd eu hunain. Gallwn gynnig arlwyo sy'n gweddu i bob gofyniad hefyd.

  • Os oes angen hyd yn oed yn fwy o le ar gyfer eich cynhadledd, gallwn gynnig y defnydd o Theatr Hafren ar gyfer hyd at 500 o bobl, gan ddibynnu ar yr arddull seddau, yn cynnig y mantais o wasanaeth technegol proffesiynol llawn yn y fan a'r lle i sicrhau'r sain, goleuo a chyflwyniadau gorau posib ar gyfer eich digwyddiad.
Hafren Auditorium
NPTC Careers EventDigwyddiad Gyrfaoedd NPTC
Special EventsDigwyddiad Trin Gwallt Lee Stafford
Inspiration Wedding Fair EventThe Inspiration Station Wedding Fair

Y manylion bach....

Gellir trefnu ystafelloedd i weddu i'ch union ofynion o Ystafell Bwrdd i Gabaret. Gweler y siart isod am fanylion yr ystafelloedd cyfarfod:

Ystafell
Ystafell y Bwrdd
Pedol
Cabaret
Theatr
Camlad hyd at 16 hyd at 12 hyd at 18 hyd at 35
Teme hyd at 16 hyd at 14 hyd at 24 hyd at 40
Teme Camlad hyd at 32 hyd at 30 hyd at 48 hyd at 90
Dyfi hyd at 14 hyd at 12 hyd at 24 hyd at 30
Tanat 6 - 8 o bobl - - -
Easy access to Hafren Conference rooms

Lle perffaith i gwrdd

Gyda chysylltiadau teithio gwych, rydym wedi ein lleoli yn nghalon Canolbarth Cymru ychydig oddi ar Ffordd Osgoi'r Drenewydd, yr A489, gyda maes parcio mawr am ddim ar y safle ac ychydig dros filltir i ffwrdd o orsaf reilffordd Y Drenewydd.

Canolfan Gynadledda Hafren

Cyfleusterau

  • Arlwyo
  • Peiriannau diodydd integredig ym mhob ystafell
  • Wifi a TG am ddim
  • Toiledau cyhoeddus
  • Toiledau sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn
  • Ni chaniateir ysmygu ar y safle
  • Maes parcio mawr am ddim
Canolfan Gynadledda Hafren

Cydymffurfiad Covid-19

Mae ein hystafelloedd cynadledda wedi cael eu hadnewyddu yn ystod y cyfnod clo i gynnwys lloriau, cadeiriau a byrddau sy'n hawdd eu glanhau.

Canolfan Gynadledda Hafren

Cysylltwch â Ni

Gellir hurio ystafelloedd am hanner diwrnodau neu ddiwrnodau llawn felly gyrrwch e-bost i dderbyn eich pris wedi'i deilwra heddiw.

Karin Unwin - Cydlynydd Cynadleddau
Ffôn: 01686 948101 - Option 1
E-bost:

Banner Image