Polisi Preifatrwydd Hafren
Rydym yn parchu eich preifatrwydd a byddwn yn trin unrhyw ddata personol a gasglwn gennych chi neu y byddwch yn ei ddarparu i ni yn unol â'r Polisi Preifatrwydd hwn. Er mwyn deall sut rydym yn cynnal ein busnes a sut rydym yn diogelu eich gwybodaeth, darllenwch y Polisi Preifatrwydd canlynol.
Rydym yn ymroddedig i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol ac yn dryloyw ynghylch pa wybodaeth sydd gennym amdanoch. Mae gwybodaeth bersonol yn ein galluogi i gael dealltwriaeth fwy cynhwysfawr o'n noddwyr ac yn ei thro yn darparu gwybodaeth berthnasol ac amserol am y gwaith a wnawn - ar y llwyfan ac o fewn ein cymuned.
Mae'r polisi hwn, sy'n berthnasol p'un a ydych yn ymweld â'n theatr, yn defnyddio'ch dyfais symudol neu'n mynd ar-lein, yn rhoi gwybodaeth i chi am:
- pa ddata personol a gasglwn gennych;
- sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth;
- sut rydym yn sicrhau bod eich preifatrwydd yn cael ei gynnal; ac
- eich hawliau cyfreithiol mewn perthynas â'ch data personol.
Cysylltu â Hafren
Yn unol â chyfreithiau diogelu data'r DU, mae Theatr Hafren yn gyfrifol am unrhyw ddata personol a gasglwn amdanoch chi neu a ddarperir gennych. Os oes gennych unrhyw gwestiynau mewn perthynas â'r Datganiad Preifatrwydd hwn, cysylltwch â
Hafren, Heol Llanidloes, Y Drenewydd, Powys SY16 4HU
ebost:
Gwybodaeth bersonol rydym yn ei chasglu oddi wrthych
Gall Theatr Hafren gasglu'r wybodaeth ganlynol oddi wrthych:
- Data Cyswllt ac Ariannol - Byddwn yn gofyn am wybodaeth bersonol pan fyddwch yn cofrestru ar ein gwefan, yn ymuno â'n rhestr bostio, yn prynu tocynnau, yn gwneud cyfraniad neu'n archebu gwasanaeth gennym ni. Byddwn yn cadw gwybodaeth bersonol fel eich enw, cyfeiriad post gan gynnwys cyfeiriadau bilio a danfon, rhifau ffôn (gan gynnwys rhifau ffôn symudol), cyfeiriad e-bost, cyfrif banc a manylion cerdyn.
- Data Trafodion - Byddwn yn cymryd gwybodaeth am daliadau i chi ac oddi wrthych a manylion eraill am wasanaethau yr ydych wedi'u prynu gennym ni. Cedwir cofnod o'ch manylion banc neu gerdyn credyd a ddefnyddiwyd i wneud pryniannau dros dro ac i brosesu eich trafodiad neu ad-daliad yn unig.
- Data Technegol - Mae ein gwefan yn prosesu eich cyfeiriad IP yn ogystal â rhai unrhyw wasanaethau trydydd parti rydych chi'n cysylltu'ch cyfrifiadur â nhw pan fyddwch chi'n defnyddio ein gwefan. Mae ein gwefan hefyd yn defnyddio cwcis i ddeall a monitro sut mae pobl yn defnyddio ein gwefan a'n gwasanaethau - er enghraifft, sut y daethoch i mewn i'n gwefan, sut y gwnaethoch lywio drwy'r wefan, pa wybodaeth oedd o ddiddordeb i chi a'ch ymddygiad prynu. Ffeiliau data bach yw cwcis sy'n cael eu gosod ar eich cyfrifiadur neu ddyfeisiau eraill (fel ffonau clyfar neu dabledi) wrth i chi bori'r wefan hon.
Gellir analluogi cwcis wrth ymweld â'n gwefan trwy newid y gosodiadau yn eich porwr. Gall analluogi cwcis amharu ar eich profiad wrth ddefnyddio'r wefan hon a'r rhan fwyaf o wefannau eraill y byddwch yn ymweld â nhw; efallai na fyddwch yn gallu defnyddio rhai nodweddion hanfodol. - Data trwy Ryngweithio - Rydym yn storio gwybodaeth am bostiadau a anfonwyd atoch ac yn cofnodi a dadansoddi data ar gliciau, agoriadau, gweithgarwch cymdeithasol a phryniannau at ddiben perfformiad ymgyrchoedd. Rydym hefyd yn storio eich gohebiaeth a'ch cyfathrebiadau â Theatr Hafren.
- Pan fyddwch yn rhoi gwybodaeth i ni mewn perthynas â digwyddiad yr ydych yn ei fynychu, efallai y byddwn yn gofyn ymhellach ichi am eich gofynion mynediad a'ch dewisiadau dietegol.
- Gwefannau Trydydd Parti - Mae ein gwefan yn cynnwys dolenni i wefannau trydydd parti sydd â'u polisïau preifatrwydd eu hunain ac a all ddefnyddio cwcis. Mae'r rhain yn cynnwys:
Ticketsolve - https://www.ticketsolve.com/privacy-policy-and-cookies
Facebook - https://www.facebook.com/about/privacy/update?ref=old_policy
Twitter - https://twitter.com/en/privacy
Instagram - https://help.instagram.com/519522125107875
Mailchimp - https://mailchimp.com/legal/privacy
Llywodraeth Cymru - https://llyw.cymru/hysbysiad-preifatrwydd-llywodraeth-cymru
Cyngor Celfyddydau Cymru - https://arts.wales/cy/documents
Y Loteri Genedlaethol - https://www.national-lottery.co.uk/privacy-policy?icid=bsp:na:tx
Cyngor Sir Powys - https://cy.powys.gov.uk/preifatrwydd
Nid ydym yn monitro, rheoli, nac yn cymeradwyo arferion preifatrwydd unrhyw drydydd parti.
Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth
Yn dibynnu ar eich dewis o ran cyfathrebu, byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol o dan yr amgylchiadau canlynol:
- Dibenion y Contract - Rydym yn prosesu ac yn storio eich data pryd bynnag y byddwch yn prynu oddi wrthym neu'n gwneud rhodd i ni at ddiben cyflawni ein contract. Mae'n ein galluogi i brosesu taliadau ac ad-daliadau, ymateb i ymholiadau, a chysylltu â chi drwy e-bost, post neu dros y ffôn yn achos perfformiad wedi'i aildrefnu neu ei ganslo.
- Marchnata a Chyfathrebu - Yn dibynnu ar eich dewis o ran cyfathrebu, efallai y byddwch yn derbyn gohebiaeth achlysurol yn eich hysbysu am ddigwyddiadau sydd ar ddod, cynigion arbennig, ein cynlluniau a'n cynnydd, a'n gweithdai ymgysylltu cymunedol. Rydym yn rhoi'r opsiwn i chi ddewis sut yr hoffech dderbyn yr ohebiaeth. Os nad ydych yn dymuno clywed gennym, yna gallwch optio allan o'n hymgyrchoedd marchnata ar unrhyw adeg trwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio ar waelod yr e-byst a gewch gennym. Yn achos llythyrau drwy'r post, gallwch wrthwynebu derbyn y rhain ar unrhyw adeg gan ddefnyddio'r manylion cyswllt uchod.
- Cyfranogi mewn Arolwg - O bryd i'w gilydd, efallai y byddwn yn gofyn i chi gymryd rhan mewn arolygon gwerthuso ac ymchwil marchnata i wella ein gwasanaethau neu fireinio ein rhaglenni, yn enwedig yn ein llwyfannau Allgymorth Cymunedol ac Addysg.
- Hysbysiadau - Efallai y bydd angen i ni roi gwybod i chi am newidiadau munud olaf i'n hamserlen raglennu gan gynnwys perfformiadau wedi'u haildrefnu a'u canslo, gwasanaethau, diweddariadau i'n gwefan a'n polisi preifatrwydd.
- Buddiannau Dilys - Efallai y bydd angen i ni gysylltu â chi i reoli ymholiad, cwyn neu anghydfod ac mewn rhai amgylchiadau datgelu eich gwybodaeth bersonol i gydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol.
Sut rydym yn sicrhau bod eich preifatrwydd yn cael ei gynnal
Cedwir eich gwybodaeth bersonol am gyhyd ag y bo'n angenrheidiol at y diben y'i casglwyd. Unwaith y bydd y diben perthnasol wedi'i fodloni, byddwn yn dileu neu'n gwneud eich data'n ddienw yn ddiogel oni bai bod yn rhaid i ni ei gadw at ddibenion archwilio neu ofynion cyfreithiol.
Mae diogelwch eich gwybodaeth bersonol yn flaenoriaeth i ni. Rydym yn cymryd y mesurau technegol a threfniadol priodol i ddiogelu'r holl wybodaeth sydd gennym (ac yn ymdrechu i weithio gyda thrydydd partïon sy'n darparu amddiffyniadau cyfatebol yn unig). Mae ein holl staff yn cael hyfforddiant diogelu data a diogelwch rheolaidd.
Rydym yn gwneud pob ymdrech i gadw eich gwybodaeth bersonol yn gywir. Os sylwch ar unrhyw gamgymeriadau neu wallau, anfonwch e-bost at:
Eich hawliau cyfreithiol mewn perthynas â'ch data personol
Mae gennych yr hawl i gael mynediad at eich data unrhyw bryd a gwrthwynebu sut y caiff ei ddefnyddio, ei gael wedi'i gywiro neu ei ddileu. Am unrhyw gwestiynau neu bryderon sydd gennych, gallwch gysylltu â ni gan ddefnyddio'r manylion cyswllt isod.
Cysylltu â ni
Pe bai angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch am ein harferion preifatrwydd neu os hoffech ofyn am fanylion am y data sydd gennym, neu i arfer unrhyw un o'r hawliau uchod, mae croeso i chi gysylltu â ni trwy ddefnyddio'r wybodaeth isod:
cyfeiriad: Hafren, Heol Llanidloes, Y Drenewydd, Powys SY16 4HU
ebost:
Diweddarwyd y datganiad preifatrwydd hwn ddiwethaf ym mis Mai 2023.