Swyddfa Docynnau Hafren 01686 948100


Eich ymweliad: Mynediad i'r Anabl

Cliciwch ar yr eiconau isod neu sgroliwch i lawr am wybodaeth bellach.

Disabled Access
Terms & Conditions

Datganiad Mynediad i'r Anabl Hafren

Mae pawb yn cael eu croesawu yn Hafren a byddwn yn gwneud beth bynnag y gallwn i sicrhau eich bod yn cael ymweliad cyfforddus a llawn mwynhad. Mae staff wrth law i helpu cyn ac yn ystod eich ymweliad, felly gofynnwch i ni os oes angen unrhyw gymorth arnoch.

Gwybodaeth am Fynediad

Mae'r Hafren yn lleoliad hygyrch ac rydym yn cynnig amrywiaeth o gyfleusterau i ddiwallu anghenion ymwelwyr. Os oes angen cefnogaeth neu gymorth arnoch i fynd i berfformiad yn y theatr, efallai y byddwch chi'n gymwys i ymuno â Hynt. I ymaelodi â Hynt ac i dderbyn eich Cerdyn Hynt bydd angen i chi ymgeisio trwy broses ymgeisio'r cynllun. Mae Hynt yn gynllun annibynnol am ddim ar gyfer pobl y mae angen cefnogaeth ychwanegol arnynt i fynd i'r theatr, ac mae pob theatr yng Nghymru'n cydnabod y cynllun. Mae'n gynllun ar gyfer Cymru yn unig. Nid yw cael eich derbyn i'r cynllun, neu fel arall, o dan reolaeth Hafren.

Gallwch ymgeisio ar-lein neu gallwch gasglu ffurflenni o dîm y swyddfa docynnau. Gall ein tîm yn y lleoliad helpu gyda'r ffurflenni ond rydym yn gofyn i chi drefnu amser i ddod i mewn er mwyn i ni sicrhau bod aelod staff ar gael. Gallwch wneud hyn trwy ffonio 01686 948100 neu yrru e-bost

Mae ein hadeilad a'n cyfleusterau'n hygyrch i bawb. Mae'r gwasanaethau yr ydym yn eu darparu'n cynnwys:

Cyfleusterau Hygyrch

Mae toiledau hygyrch ar gael ar y llawr gwaelod yn unig yn ein theatr.

Parcio Hygyrch

Mae'r maes parcio ar gael i bawb am ddim, gan gynnwys y mannau dynodedig i'r anabl. Mae pum lle i'r anabl ar gael ar sail y cyntaf i'r felin.

Defnyddwyr Cadair Olwyn

Mae gennym leoedd i gadeiriau olwyn ar lefel y seddau breichiau yn ein hardal berfformio gyfan. Mae'r ardaloedd cyhoeddus i gyd yn gwbl hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn hefyd.

Guide Dogs UK and Assistance Dogs UK

Cŵn Tywys a Chŵn Cymorth

Mae croeso cynnes i unrhyw gŵn tywys a chŵn cymorth yma yn Theatr Hafren, gan gynnwys o fewn i'r awditoriwm yn ystod perfformiad. A wnewch chi gysylltu â Swyddfa Docynnau Hafren ar 01686 948100 i siarad ag aelod o staff ynglŷn â'ch gofynion os gwelwch yn dda? Bydd ein tîm Swyddfa Docynnau ar gael i allu cynnig y sedd fwyaf addas gyda digon o le i'r ddau ohonoch ac i roi gwybod i chi am unrhyw effeithiau arbennig / seiniau uchel yn ystod y sioe a allai fod yn anaddas i'ch ci.

Sennheiser Mobileconnect

System Clyw

Noddwyr sy'n fyddar neu â nam ar y clyw
Rydym wedi gosod system clyw newydd sbon i gynorthwyo'r rhai sydd â nam ar y clyw. I gael mynediad i hyn lawrlwythwch yr Ap o'r enw 'Sennheiser Mobileconnect' o'ch storfa Apiau neu Google ac yna pan fyddwch yn ein hawditoriwm, bydd angen i chi gysylltu'ch dyfais â'r rhwydwaith WiFi 'Mobile Connect'. Agorwch yr Ap a dewiswch 'Hearing support' a chysylltwch eich set pen i dderbyn sain ychwanegol wedi'i fwyhau. Am ffi o £1 gallwn ddarparu clustffonau y gallwch chi eu defnyddio a mynd â nhw i ffwrdd gyda chi.

Noddwyr sy'n ddall neu â nam ar y golwg
Os oes gennych gi cynorthwyol, rhowch wybod i'r Swyddfa Docynnau pan fyddwch yn archebu a bydd modd neilltuo'r seddau mwyaf priodol i chi neu'n gwneud darpariaeth ddigonol i ofalu am eich ci yn ystod y perfformiad.

Perfformiadau Hygyrch

Perfformiadau sydd â Disgrifiadau Sain: Mae disgrifiad sain mewn theatr yn sylwadaeth lafar fyw a gyflwynir rhwng y deialogau ar elfennau gweledol y cynhyrchiad wrth iddo ddatblygu. Mae'r disgrifiad yn darparu dim ond yr wybodaeth hanfodol efallai y bydd noddwr sydd â nam ar y golwg yn colli allan arni.

Perfformiadau sydd â Dehongliad BSL: Mae nifer o berfformiadau a digwyddiadau'n cael eu dehongli mewn Iaith Arwyddion Prydeinig. Gall ein tîm Swyddfa Docynnau roi cyngor ar y seddau gorau i fanteisio ar y cynnig hwn.

Perfformiadau gyda Chapsiynau: Mae capsiynau'n debyg i isdeitlau ar y teledu ac yn rhoi mynediad i berfformiadau byw ar gyfer pobl sy'n fyddar, wedi mynd yn fyddar neu â nam ar y clyw. Mae geiriau'r actorion yn ymddangos ar uned arddangos ar yr un pryd ag y maent yn cael eu siarad neu eu canu. Mae enwau siaradwyr, effeithiau sain a synau oddi ar y llwyfan yn cael eu dangos hefyd.

Noder NAD YW pob perfformiad yn cynnig y gwasanaethau hyn. Bydd yr holl berfformiadau BSL ac â Chapsiynau'n cael eu nodi yn ein taflen.

Mae Perfformiadau Esmwyth: yn cael eu dylunio'n benodol i groesawu pobl a fydd yn elwa o amgylchedd perfformio mwy esmwyth, gan gynnwys pobl sydd â Chyflwr Sbectrwm Awtistiaeth, anhwylderau synhwyraidd a chyfathrebu, neu anabledd dysgu. Rydym yn ceisio gwneud y digwyddiadau mor gynhwysol â phosib i deuluoedd er mwyn iddynt fod yn agored i bawb, hyd yn oed os nad oes angen yr addasiadau yr ydym yn eu gwneud ar gyfer perfformiadau esmwyth arnoch. Ceir ymagwedd esmwyth at sŵn a symudiad ac mae rhai newidiadau bychain yn cael eu gwneud i'r effeithiau golau a sain, byddwn yn cadw'r goleuo'n isel ac yn troi'r sŵn i lawr ychydig.

Sgriniadau Deall Dementia: Ar gyfer pobl sydd â dementia, nam ar y cof a'u teulu, ffrindiau a gofalwyr ond maent yn agored i'r cyhoedd. Mae gan y sgriniadau amgylchedd esmwyth fel bod croeso i bobl symud o gwmpas a mynd a dod fel y mynnant. Mae lluniaeth ar gael yn ystod yr egwyl, ac mae hyn wedi'i chynnwys ym mhris y tocyn. Mae perfformiadau wedi'u trefnu yn null cabaret gyda nifer cyfyngedig o seddau yn null theatr yn y cefn. *Noder na ddarperir gofal bugeiliol yn y digwyddiadau hyn. Mae'n rhaid i ffrind, aelod teulu neu ofalwr fod yn bresennol hefyd.

Mynediad / Ymadael Cynnar

Mae'r drysau i'n gofodau perfformiad yn agor tua 30 munud cyn i'r perfformiad ddechrau. Os bydd cael mynediad i'r gofodau perfformio'n anodd i chi, bod angen amser ychwanegol arnoch i gyrraedd eich seddau neu fod y ciwiau'n ormod i chi gallwn drefnu i chi gael mynediad yn gynnar. Gallwch ofyn am hyn wrth brynu eich tocynnau neu fel arall gallwch gysylltu â

Datganiad Amrywiaeth

Mae Hafren yn croesawu amrywiaeth ac yn ymdrechu i hybu cyfle cyfartal yr holl staff, ymwelwyr ac aelodau'r gymuned ehangach. Ni fydd sylwadau ac ymddygiad gwahaniaethol neu dramgwyddus ar sail crefydd neu gred, ailaseinio rhywedd, oedran, statws priodas neu bartneriaeth, anabledd, beichiogrwydd, rhyw, hil neu dueddfryd rhywiol yn cael eu goddef. Bydd unrhyw un sy'n methu â chydymffurfio â'r datganiad hwn yn cael ei ddal yn atebol a bydd camau priodol yn cael eu cymryd.