Swyddfa Docynnau Hafren 01686 948100

Leanne Cordingley-Wright - Hafren Gallery

YNGLŶN Â LEANNE
Artist collage a dylunydd graffeg yw Leanne Cordingley-Wright wedi'i lleoli yng Nghanolbarth Cymru. Mae ei gwaith yn archwilio syniadau ar anhrefn, siawns, ffurf ddeinamig mewn natur, hud a realiti canfyddedig. Gan gyfuno pynciau cyflwr breuddwyd, patrymau naturiol beiddgar a delweddaeth fiolegol mae hi'n creu bydoedd chwareus, swreal, sy'n ymddangos yn estron, ond eto'n bodoli oddi mewn i ni ac o'n cwmpas, yn aml yn chwarae gyda graddfa a gosodiad i ddatgelu cysylltiadau.

Astudiodd Leanne Seicoleg a Chymdeithaseg ac mae ganddi BA mewn Cymdeithaseg o Brifysgol Sheffield. Mae'r meysydd diddordeb hyn wedi bod yn ffynhonnell gyson o ddylanwad ar Leanne ac wedi sbarduno trywyddau ymholi yn ei gwaith wrth iddi fynd i'r afael â chwestiynau megis sut rydym yn creu ein realiti ein hunain a sut mae ein profiadau yn effeithio ar y ffordd yr ydym yn rhyngweithio â'r byd o'n cwmpas.

www.leannecordingleywright.co.uk
Instagram @studiomayfly

Leanne Cordingley-Wright
Leanne Cordingley-Wright

Oriel Hafren

Mae'r oriel ar agor ddydd Llun, Mercher, Iau a Gwener 9.30am tan 2.30pm a bob dydd Sadwrn dwy awr cyn y perfformiad ar ddiwrnodau perfformio yn unig.

Mynediad am ddim. Gall yr oriau agor yn ystod y dydd gael eu torri'n fyr nawr ac yn y man; ffoniwch y swyddfa docynnau i sicrhau bod yr oriel ar agor ar gyfer eich ymweliad. Mae arddangosfeydd yn agored i bawb a chynnig cyfle i gwrdd ag artistiaid a thrafod eu gwaith. Mae coffi ar gael am ddim yn ystod y sesiynau agor.

Arddangosfeydd
Os hoffech chi arddangos eich gwaith celf yn Oriel Hafren yn y dyfodol, cysylltwch ag
Mel Pettit | ff: 01686 948101 - Opsiwn 3 | e: