Swyddfa Docynnau Hafren 01686 948100

Cystadleuaeth Murlun Graffiti 2024

CRONFA GELF Y LLEFARYDD
Mae Hafren yn gwahodd holl fyfyrwyr ôl-16 Sir Drefaldwyn i ddylunio darn o Gelf Graffiti i'w osod ar wal y tu allan i ardal bar Hafren. Ariennir y gystadleuaeth yn rhannol gan Gronfa Gelf Llefarydd Tŷ’r Cyffredin. Y thema yw "Yr hyn y mae Democratiaeth yn ei Olygu i Chi".

Bydd yr enillydd yn cael cyfle i ail-greu ei ddyluniad ar y wal ynghyd ag Andy Birch (Dime One) ar ddydd Mercher 19eg Mehefin.

Murlun ar Wal: Mesuriadau'r wal: Uchder 2.7m x 3m
Pwy all ymgeisio: Myfyrwyr ysgol uwchradd a choleg ôl 16+ o Sir Drefaldwyn.

Bydd y gystadleuaeth yn cael ei beirniadu gan yr Artist Graffiti enwog o Ogledd Cymru, Dime One (Andy Birch) ac AS Maldwyn Craig Williams. Bydd penderfyniad y beirniaid yn derfynol ac ni fydd unrhyw ohebiaeth yn cael ei chynnal.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Mel Pettit ar neu 0330 818 9428.

Gronfa Gelf Llefarydd Tŷ'r Cyffredin