Beth Sydd Ymlaen: Ar y Sgrîn yn Hafren
Gyda'n sgrîn sinema newydd sbon a sain amgylchynu 7.1 ar flaen y gad, mae Hafren nawr yn cynnig cynhyrchiadau theatr, ffilmiau ac arddangosiadau celf o bedwar ben y byd o dan ein platfform 'Sgrîn Hafren'.
Y gorau o Theatr Brydeinig ar ein sgrîn sinema uwchdechnoleg.
Beth ydych chi'n dod i'w wylio?
Ffilmiau cyffrous, comedïau rhamantaidd, ffilmiau llawn antur?
Theatr Genedlaethol Fyw (encore)
Mae THEATR GENEDLAETHOL yn gwneud cynhyrchiadau theatr sy'n difyrru, herio ac ysbrydoli. Os ydych yn dod i ddrama ddifrifol, comedi rhamantaidd neu sioe arobryn sy'n gwerthu pob tocyn, mae'r Theatr Genedlaethol Fyw yn dod â theatr nad oes neb eisiau ei golli yn uniongyrchol i Sgrîn Hafren, wedi'u ffilmio'n wreiddiol yn fyw ar lwyfannau mwyaf cyffrous Prydain. Gyda'r sgrîn arloesgar a'r sain amgylchynu, ni ddylech golli'r cyfle i weld y sioeau hyn!
Ffilmiau yn y Prynhawn
Trwy gydol y flwyddyn rydym yn cynnig Ffilmiau yn y Prynhawn a ddangosir ddydd Mercher olaf bob mis. Fel arfer maent yn dechrau am 1pm ac yn aml yn cynnwys diod poeth am ddim gyda phris y tocyn fel y nodir.Ein Rhestr o Ffilmiau yn y Prynhawn
Perfformiadau Hamddenol: mae'r sioeau hyn i bawb!
Cynhelir y perfformiadau mewn amgylchedd cyfeillgar a hamddenol, wedi'i gynllunio i ddarparu ar gyfer aelodau'r gynulleidfa ag anableddau fel (ond heb fod yn gyfyngedig i) cyflyrau'r sbectrwm awtistiaeth, anhwylderau synhwyraidd a chyfathrebu, anableddau dysgu, cleifion dementia, neu hyd yn oed plant ifanc.Dyma rai o nodweddion y sioeau hyn:
- Cyflwyniad yn egluro beth fydd yn digwydd a phryd.
- Stiwardio ychwanegol gydag ymwybyddiaeth o ddementia ac anabledd i gynorthwyo ein holl gwsmeriaid.
- Egwyl ar gyfer lluniaeth a chysur.
- Newidiadau i oleuadau a sain y sioe.
- Arwyddion clir o amgylch y theatr.
- Agwedd hamddenol i symudiadau ac ymatebion y gynulleidfa yn ystod y sioe.
- Man tawel ar gael cyn, yn ystod ac ar ôl y sioe.
Trafalgar ar y Sgrîn
TRAFALGAR RELEASING yw'r arweinydd byd-eang mewn dosbarthu digwyddiadau sinema. Mae sbectrwm llawn o weithiau newydd yn cynnwys celfyddydau uchel, theatr arobryn a sêr y byd cerddoriaeth gyfoes. Croeso i ddigwyddiad sy'n dod yn fwyfwy poblogaidd sef Event Cinema.Cymysgedd o gyngherddau, theatr, opera, bale, ffilmiau a digwyddiadau byw.