Eich ymweliad: Sut i Gyrraedd Ni
Cliciwch ar yr eiconau isod neu sgroliwch i lawr am wybodaeth bellach.
Eich ymweliad: Map o'r Lleoliad
O'r Gogledd
(Manceinion, Lerpwl, Caer)
Dilynwch yr A483 i'r De o Gaer, gan fynd heibio i Groesoswallt a'r Trallwng. Mae'r theatr wedi'i lleoli i'r Gorllewin o'r Drenewydd; Ewch ar Ffordd Osgoi'r Drenewydd, yr A489, ar y cylchfan cyntaf wrth ddod yn nes at Y Drenewydd. Ar y cylchfan olaf ar ddiwedd y ffordd osgoi, trowch yn ôl ac anelwch yn ôl i mewn i'r Drenewydd. Mae'r theatr wedi'i lleoli ar y chwith. Trowch i'r chwith ar y cylchfan nesaf. Mae Caer 56 milltir (1 awr, 25 munud) o'r Hafren.
O'r Dwyrain
(Llundain, Birmingham, Amwythig)
Dilynwch yr A5 i'r Gorllewin, tua Chymru. Gadewch y cylchfan ar yr allanfa gyntaf sydd â'r arwydd A458 tua'r Trallwng. Ar gylchfan Gwerthiannau Da Byw Y Trallwng, cymerwch yr allanfa gyntaf â'r arwydd A483. Dilynwch yr arwyddion i'r Drenewydd (A483). Mae'r theatr wedi'i lleoli i'r Gorllewin o'r Drenewydd; Ewch ar Ffordd Osgoi'r Drenewydd, yr A489, ar y cylchfan cyntaf wrth ddod yn nes at Y Drenewydd. Ar y cylchfan olaf ar ddiwedd y ffordd osgoi, trowch yn ôl ac anelwch yn ôl i mewn i'r Drenewydd. Mae'r theatr wedi'i lleoli ar y chwith. Trowch i'r chwith ar y cylchfan nesaf. Mae Caer 36 milltir (54 munud) o'r Hafren.
O'r De
(Bryste, Caerdydd, Aberhonddu)
Dilynwch yr A470 i'r Gogledd o Gaerdydd. Yn Llanfair ym Muallt, trowch i'r dde ar yr A483 tua Llandrindod a'r Drenewydd. Wrth ddod yn nes at Ffordd Osgoi'r Drenewydd, yr A483, trowch i'r chwith ar y cylchfan. Ar y cylchfan olaf ar ddiwedd y ffordd osgoi, trowch yn ôl ac anelwch yn ôl i mewn i'r Drenewydd. Mae'r theatr wedi'i lleoli ar y chwith. Trowch i'r chwith ar y cylchfan nesaf. Mae Aberhonddu 55 milltir (1 awr, 24 munud) o'r Hafren.
Ar y Trên
Mae Gorsaf Reilffordd Y Drenewydd bum munud o daith yrru o'r theatr. Mae gwasanaeth Arfordir Cambria (Trafnidiaeth Cymru) yn cysylltu nifer o drefi yng Ngogledd Powys (Machynlleth, Caersws, Y Drenewydd a'r Trallwng) ac yn darparu mynediad i Aberystwyth, Aberdyfi, Abermaw, Porthmadog a Phwllheli i'r Gorllewin a'r Gogledd. I'r Dwyrain, mae'r llinell yn darparu mynediad i Amwythig, Telford, Wolverhampton a Birmingham.
Gwybodaeth am deithio ar y trên a'r bws: Trainline
Ar y Bws
Mae Gorsaf Fysiau Y Drenewydd dri deg munud ar droed o'r theatr. Mae'r bws 'Traws Cambria', Gwasanaeth 704 yn cynnig gwasanaeth bob dwy awr sy'n cysylltu Aberhonddu, Llanfair ym Muallt, Llandrindod â'r Drenewydd.
Rhifau Ffôn Defnyddiol
Swyddfa Docynnau'r Theatr - 01686 948 100
Newtown Cars Midwales Ltd (Gwasanaeth Tacsi) - 01686 621 818
Rob's Taxis (Gwasanaeth Tacsi) - 07854 143 148
Luxor Taxis (Gwasanaeth Tacsi) - 07432 093 532
Ross Cabs (Gwasanaeth Tacsi) - 07776 375 342
Parcio
Gellir parcio ym maes parcio ein theatr am ddim, mae parcio i'r anabl sy'n rhoi mynediad i'n mynedfa a swyddfa docynnau lefel wastad ar y llawr gwaelod.
Rydym yn argymell i chi gyrraedd o leiaf 30 munud cyn dechrau'r perfformiad yr ydych yn mynd i'w weld, gan roi amser i chi gasglu'ch tocynnau, cael diod yn ein horiel / ardal y bar ac ymlacio cyn mynd i mewn i'r awditoriwm. Os ydych yn teithio cryn bellter i'n cyrraedd ni, cofiwch ddarparu amser ychwanegol ar gyfer unrhyw oedi posib wrth deithio. Mae ap am ddim o'r enw TrafficEye, sydd ar gael yn y storfa apiau.