Eich ymweliad: Cynllun Seddau
Cliciwch ar yr eiconau isod neu sgroliwch i lawr am wybodaeth bellach.
Cynllun Seddau
Eich ymweliad: Awditoriwm Hafren
Mae'r awditoriwm yn darparu ar gyfer hyd at uchafswm o 548 yn null theatr a 220 yn null cabaret.
Nodir na ellir defnyddio'r blaenlwyfan ar gyfer cynulleidfaoedd mwy (500+). Mae dau falconi sefydlog sydd â 100 o seddau'n ymestyn o flaen yr awditoriwm i'r cefn. Gellir tynnu'r uned o seddau canolog i adael ardal arwynebedd llawr clir o tua 12m x 12m. Mae 100 o seddau rhydd ar gael.
Cyfleusterau Hafren
Mae drws llwyfan ar yr ochr ddeheuol yn arwain at yr ardal ystafell wisgo ddeulawr. Mae chwe ystafell wisgo; dwy brif ystafell wisgo ac un corws ar y llawr gwaelod a threfniad tebyg uwchlaw ar y llawr cyntaf. Lleolir toiledau a chawodydd rhyw gymysg ar y ddau lawr. Does dim 'ystafell werdd'. Mae ardal gegin fach ar gael ar ben grisiau'r llawr gwaelod ond yn anffodus ni chaniateir unrhyw gyfleusterau cegin yma.
Blaen Tŷ
Mae'r Blaen Tŷ yn cynnwys y cyntedd/swyddfa docynnau, gydag oriel, car a siop coffi gyfagos. Mae'r lleoliad marsiandïaeth yn y cyntedd fel arfer.
Polisi Ysmygu Hafren
Mae'r adeilad wrth gwrs yn gweithredu polisi dim ysmygu, gan gynnwys sigaréts electronig. Caniateir ysmygu ar y tu allan yn unig mewn ardaloedd dynodedig. DS. Ni chaniateir ysmygu fel rhan o berfformiad o dan unrhyw amgylchiadau yng Nghymru.
Maes Parcio Hafren
Mae'r maes parcio ar gael am ddim gyfagos â'r theatr. Mae mynediad mewn cadair olwyn yn bosib i ardal y llwyfan (o Ddrws y Llwyfan), llawr yr awditoriwm a'r holl ardaloedd blaen tŷ. Mae pedwar lle parcio i'r anabl ar gael ar sail y cyntaf i'r felin.