Eich ymweliad: Telerau ac Amodau
Cliciwch ar yr eiconau isod neu sgroliwch i lawr am wybodaeth bellach.
Telerau ac Amodau
Yr Hafren, Heol Llanidloes, Y Drenewydd, Powys SY16 4HU
Swyddfa Docynnau: Ffôn: 01686 948100 | e- bost:
Oriau Agor y Swyddfa Docynnau
Mae ein Swyddfa Docynnau bellach ar agor. Mae'r amseroedd agor cyhoeddus newydd fel a ganlyn:
Diwrnod | Oriau Agor |
---|---|
Dydd Llun | 09:00 - 3:00 |
Dydd Mawrth | AR GAU |
Dydd Mercher | AR GAU |
Dydd Iau | 09:00 - 3:00 |
Dydd Gwener | 09:00 - 3:00 |
Dydd Sadwrn | AR GAU |
Dydd Sul | AR GAU |
Ffôn
Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 01686 948100 (gweler yr oriau agor uchod). Gallwch dalu trwy gerdyn credyd neu ddebyd. Bydd galwadau ffôn i archebu tocynnau'n cael eu dargyfeirio i ffôn ateb yn ystod y 30 munud cyn unrhyw berfformiad i alluogi staff y Swyddfa Docynnau i weini pobl mewn person.
Gwerthiannau Ar-lein
Mae tocynnau ar gyfer yr holl sioeau ar gael i'w prynu ar-lein. Gall cwsmeriaid naill ai argraffu derbynneb neu ofyn i'w tocynnau gael eu hanfon trwy'r post am gost o £1.20.
Tocynnau i'w Hargraffu Gartref
Rydym yn awr yn cynnig yr opsiwn i bobl sy'n archebu ar-lein argraffu eu tocynnau gartref. Y cyfan y byddai angen i chi ei wneud yw dewis 'Argraffu Cartref' wrth i chi dalu ac yna anfonir e-bost atoch gyda dolen pdf i'ch tocynnau. Wrth glicio'r ddolen honno bydd modd i chi weld nhw ac yna eu hargraffu. Dewch â nhw gyda chi a cherddwch yn syth i'r awditoriwm.
Post
Cyfeiriad: Swyddfa Docynnau, Yr Hafren, Heol Llanidloes, Y Drenewydd, Powys SY16 4HU.
Rhowch enw'r perfformiad, nifer y tocynnau (gan gynnwys unrhyw gonsesiynau), eich enw, cyfeiriad a rhif ffôn yn ystod y dydd. Gofynnir i chi amgáu siec am y cyfanswm, yn daladwy i 'Hafren-NPTC Group' ac ysgrifennu rhif y cerdyn siec ar y cefn. Ychwanegwch £1.20 at y cyfanswm os ydych eisiau i'r tocynnau gael eu hanfon atoch trwy'r post.
Ad-daliadau a Chyfnewid Tocynnau
Mae Hafren yn gwerthfawrogi ymroddiad cwsmeriaid i'r theatr wrth archebu'n gynnar ar gyfer digwyddiadau ac yn cydnabod y gall cynlluniau newid. Yn y fath achosion, os caiff y tocynnau eu dychwelyd i'r Swyddfa Docynnau byddwn yn ceisio eu hailwerthu i gwsmeriaid eraill. Ni ellir gwarantu hyn gan y bydd holl docynnau'r theatr sydd heb eu gwerthu'n cael eu gwerthu'n gyntaf. Os byddwn yn llwyddo i ailwerthu'r tocynnau, bydd y Swyddfa Docynnau'n rhoi taleb i chi i'w defnyddio yn erbyn unrhyw archeb yn y dyfodol. Gellir rhoi talebau credyd dim ond i brynwr gwreiddiol y tocyn. Yn unol â'r rhan fwyaf o theatrau proffesiynol eraill, diferir na ellir rhoi ad-daliadau arian parod ar gyfer tocynnau sydd eisoes wedi'u prynu.
Prisiau Consesiynol a Thocynnau Cynnig Arbennig
Pan gânt eu dangos, mae tocynnau consesiynol ar gael i blant, myfyrwyr, pobl dros 60 oed, pobl sydd wedi'u cofrestru'n anabl (gan gynnwys gofalwr sy'n dod gyda nhw) a phobl ddi-waith. Mae tocynnau Consesiwn Teulu ac Arbed Cynnar i gyd yn amodol ar argaeledd, ac mae'n rhaid talu amdanynt erbyn y dyddiad a bennir. Mae'n bosib y bydd nifer cyfyngedig o leoedd. Rydym yn cadw'r hawl i ddiddymu'r cynigion hyn unrhyw bryd, heb roi rhybudd. Mae tocynnau teulu ar gyfer uchafswm o bedwar person ac mae'n rhaid i o leiaf dau o'r rhain fod yn blant.
Cyfraddau Archebu Grŵp
Mae'r rhain ar gael ar gyfer y rhan fwyaf o berfformiadau i grwpiau o 10 neu fwy. Mae un tocyn ar gael am ddim ar gyfer bob 10 o docynnau a archebir. Gofynnir i chi gadarnhau gyda'r Swyddfa Docynnau bod y gyfradd grŵp yn berthnasol i'r perfformiad rydych yn dymuno archebu ar ei gyfer. Ar gyfer grwpiau o fwy na 25, ffoniwch Del Thomas, Rheolwr Marchnata, ar 01686 948101 - Opsiwn 2 neu gyrrwch e-bost i i drafod disgowntiau mwy.
Cyfleusterau i'r Anabl
Mae saith lle parcio wedi'u neilltuo ar gyfer deiliaid Bathodyn Glas ger drysau blaen y theatr. Dylai noddwyr mewn cadeiriau olwyn fynd i mewn trwy'r brif fynedfa. Mae mynediad lefel wastad i'r Swyddfa Docynnau, Bar yr Oriel a'r Awditoriwm. Mae lleoedd ar gyfer hyd at chwe defnyddiwr cadair olwyn ar gael o flaen y prif seddau. Dylid neilltuo hyn ymlaen llaw. Mae arwyddion cyffyrddol, llachar yn dangos lleoliad y toiledau, gan gynnwys toiled penodedig gyda mynediad i gadeiriau olwyn. Ffoniwch y Swyddfa Docynnau i drafod ein system dolen glyw. Mae clustffonau hefyd ar gael ar gais. Mae copi print bras o ddigwyddiadau'r theatr ar gael ar gais. Mae system clyw newydd wedi'i gosod er budd pobl sy'n drwm eu clyw.
Talebau Rhodd
Cynigir Talebau Rhodd Hafren am unrhyw swm, gellir eu defnyddio i dalu am holl Sioeau Hafren ac maent yn ddilys am hyd at ddwy flynedd. I brynu taleb cliciwch yma.
Lluniaeth
Mae bar y theatr ar agor awr cyn pob perfformiad, yn ogystal ag yn ystod yr egwyl ac ar ôl y perfformiad. Er mwyn gwneud y gorau o'r egwyl awgrymir i chi archebu diodydd ymlaen llaw, gan y gall y bar fod yn eithriadol o brysur yn ystod yr egwyl. Mae siop goffi a ciosg hufen iâ y theatr hefyd ar agor ar nosweithiau perfformiad. Ar gyfer archebion dros £10 mae gan bar y theatr gyfleusterau talu gyda cherdyn credyd.
Hurio'r Theatr
Mae awditoriwm y theatr a chyfleusterau eraill ar gael ar gyfer cynadleddau, cyfarfodydd busnes a digwyddiadau arbennig. Gall y prif awditoriwm ddarparu ar gyfer hyd at 500 gyda chyfleusterau llwyfan a goleuo llawn, hefyd mae cyfres o ystafelloedd llai ar gael at ddefnydd ategol neu ar gyfer digwyddiadau llai. Mae gwasanaeth technegol proffesiynol llawn yn y fan a'r lle yn sicrhau'r sain, goleuo a chyflwyniadau gorau posib ar gyfer eich digwyddiad. Gydag arlwyo sy'n gweddu i bob gofyniad, mae'r theatr yn cynnig amgylchedd proffesiynol ac addas i fusnes, sy'n hyblyg wrth ddarparu ar gyfer amrediad mawr o niferoedd o ddeg ac i fyny. Cysylltwch â Karin Unwin ar 01686 948101 - Opsiwn 1 neu gyrrwch e-bost . Mae mwy o wybodaeth ar gael yma am Ganolfan Gynadledda Hafren.
Peiriant Arian
Mae peiriant arian parod wedi'i leoli yn ardal y cyntedd i'r dde o'r prif ddrysau.
Cynllun Hynt
Os oes angen cefnogaeth neu gymorth arnoch i fynd i berfformiad mewn theatr neu ganolfan gelfyddydol, efallai y byddwch chi'n gymwys i ymuno â Hynt. Mae Hynt yn gynllun mynediad cenedlaethol sy'n gweithio gyda theatrau a chanolfannau celfyddydol yng Nghymru i sicrhau bod cynnig cyson ar gael i ymwelwyr sydd ag unrhyw fath o nam neu ofynion mynediad penodol. I gael mwy o wybodaeth, gan gynnwys sut i ymaelodi â Hynt, ewch i hynt.co.uk neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 01686 948100.
Perfformiadau Esmwyth
Mae perfformiadau esmwyth yn agored i bawb, ond mae'r amgylchedd wedi cael ei addasu'n benodol ar gyfer teuluoedd â phlant sydd â Chyflwr Sbectrwm Awtistiaeth, unigolion ag anhwylderau synhwyraidd a chyfathrebu, y rhai ag anableddau dysgu ac unrhyw un a fyddai'n elwa o amgylchedd mwy esmwyth.