Swyddfa Docynnau Hafren 01686 948100
Hafren yn cadarnhau cynlluniau aîlagor gyda rhestr wirio 10-pwynt i sicrhau nad yw cynulleidfaoedd/selogion/defnyddwyr, Byddar, anabl a niwroamrywiol yn cael eu gadael ar eu hôl.
Gall Hafren gadarnhau bod ein cynlluniau ailagor yn alinio i restr wirio 10-pwynt a gyhoeddwyd gan y Gynhgrair Mynediad Cynulleidfaoedd traws-sector. Mae'r Gynhgrair Mynediad Cynulleidfaoedd, a sefydlwyd gan elusen hygyrchedd y diwydiant cerddoriaeth a digwyddiadau Attitude is Everything, yn cynnwys cynghrair traws-sector o 13 o sefydliadau a rhwydweithiau anableddau a hygyrchedd y maent oll yn gytûn wrth weithio i ddileu rhwystrau i gynulleidfaoedd ar draws y DU neu yn y gwledydd datganoledig.
Mae'r rhestr 10-pwynt, sydd wedi'i dylunio i fod yn berthnasol i unrhyw leoliad neu ddigwyddiad, o glybiau pêl-droed a gwyliau awyr agored i safleoedd treftadaeth, cyrchfannau cerddoriaeth, atyniadau i dwristiaid a theatrau, yn corffori'r dealltwriaethau a pholisïau allweddol y mae angen iddynt fod yn eu lle er mwyn i ailagor fod yn hygyrch i bobl Fyddar, anabl a niwroamrywiol, beth bynnag fo'r lleoliad.
Gall ein cwsmeriaid fod yn dawel eu meddwl bod ein cynlluniau ailagor yn alinio i'r canlynol:
Noder: O ran pwynt 3, rydym yn ymrwymo i ddarparu gwasanaethau archebu tocynnau hygyrch pan aiff tocynnau ar werth. Mae nifer y seddi hygyrch sydd ar gael i'w neilltuo wedi'i lywodraethu o hyd gan gapasiti'r lleoliad.
Meddai Rheolwr Theatr Hafren, Sara Clutton, "Er nad ydym yn bwriadu ailagor tan hydref 2021 fan gynharaf, mae ein holl gynlluniau'n alinio i Restr Wirio Ailagor Hygyrch y Gynghrair Mynediad Cynulleidfaoedd. Rydym yn gwneud addasiadau i'n hadeiladau a'n cyfleusterau gan ein bod yn ymroddedig i chwarae ein rhan wrth #AdeiladunOliBawb, mae hyn yn cynnwys cwsmeriaid a chyfranogwyr Byddar, anabl a niwroamrywiol a holl ddefnyddwyr eraill Hafren. Hefyd, mae Hafren eisiau cynnal a datblygu'r holl ymgysylltiad gyda chynulleidfaoedd newydd a sefydlwyd trwy ein sesiynau ar-lein yn ystod y cyfnod clo."