Mae'r wybodaeth ganlynol yn unol â chanllawiau cyfredol Llywodraeth Cymru ac fe allai newid. Ewch i wefan y llywodraeth i gael cyngor pellach ac arweiniad llawn.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen cymorth arnoch gyda'ch pàs covid yna mae croeso i chi gysylltu â ni ar 01686 948100. Ein nod yw gwneud eich ymweliad â'r theatr mor hawdd, diogel a di-straen â phosibl.
Mae Pàs COVID y GIG yn eich galluogi i rannu eich cofnod o frechiadau rhag y coronafeirws (COVID-19) mewn ffordd ddiogel.
Mae'n eich galluogi i ddangos i eraill eich bod wedi cael eich brechu, neu eich bod wedi cael canlyniad prawf llif unffordd negatif. Gallech ei ddefnyddio ar gyfer:
Gallwch gael Pàs COVID y GIG os ydych yn 16 oed neu'n hŷn ac:
Mae mwy o wybodaeth am frechiadau y tu allan i'r DU i'w gweld yma.
Rhai i chi wneud cais am Bàs COVID y GIG drwy wefan y GIG. Ni allwch ddefnyddio ap y GIG i gael Pàs COVID y GIG os ydych yn byw yng Nghymru. Gallwch lawr lwytho ac argraffu Pàs COVID y GIG.
Mae'n rhaid i chi fod:
Cael eich Pàs COVID y GIG ar nhs.uk
Os nad oes gennych ID sy'n cynnwys llun neu ddyfais glyfar berthnasol, bydd angen ichi ofyn am fersiwn bapur o dystysgrif COVID y GIG.
Mae Pàs COVID y GIG yn ddilys am 30 diwrnod. Bydd y cod bar yn diweddaru'n awtomatig bob tro y byddwch yn logio mewn i'r gwasanaeth. Bydd hyn yn ei ymestyn am 30 diwrnod ychwanegol.
Os yw eich Pàs COVID y GIG yn dangos dyddiad dod i ben sy'n fyrrach, yna mae'n debygol nad ydych wedi dilysu'ch ID yn llawn. Rhoddir opsiwn i chi ddilysu’ch ID yn llawn er mwyn cael Pàs gyda dyddiad dod i ben sy'n hirach.